Calgacus

Oddi ar Wicipedia
Llun o'r 19eg ganrif o Calgacus yn traddodi ei araith cyn y frwydr.

Roedd Calgacus yn arweinydd byddin cynghrair y Caledoniaid a wynebodd y fyddin Rufeinig dan Agricola ym Mrwydr Mons Graupius yng ngogledd yr Alban yn y flwyddyn 83 neu 84.

Roedd y frwydr yn rhan o ymgyrch Agricola, Llywodraethwr Prydain, yn yr Alban. Ceir yr hanes gan Tacitus, mab-yng-nghyfraith Agricola yn ei lyfr Agricola, yr unig gyfeiriad at Calgacus. Rhoddodd Tactitus araith enwog iddo cyn y frwydr. Mae'n gorffen:

Ond nid oes unrhyw lwythau tu draw i ni, dim byd ond tonnau a chreigiau, a'r Rhufeiniaid, mwy dychrynllyd na hwythau, gan mai ofer ceisio osgoi eu gormes trwy ufuddod a gostyngiad. Lladron y byd, wedi dihysbyddu'r tir trwy eu rhaib, maent yn ysbeilio'r dyfnderoedd. Os yw'r gelyn yn gyfoethog, maent yn farus; os yw'n dlawd maent yn ysu am arglwyddiaeth drosto; nid yw'r dwyrain na'r gorllewin yn ddigon i'w bodloni. Yn unigryw ymysg dynion, maent yn chwennych tlodi a chyfoeth fel ei gilydd. Galwant ladrad, llofruddiaeth ac ysbeilio wrth yr enw celwyddog ymerodraeth; gwnant anialwch a'i alw yn heddwch. (Agricola 30).

Ymddengys fod tua 20,000 yn y fyddin Rufeinig, ac wynebwyd hwy gan fyddin o tua 30,000 o gynghrair y llwythau Caledonaidd. Aflwyddiannus oedd ymgais y Caledoniaid i atal ymgyrch y Rhufeiniaid. Yn ôl Tacitus lladdwyd 10,000 o Galedoniaid a dim ond 360 oedd colledion y Rhufeiniaid. Nid oes cofnod o dynged Calgacus ei hun.