Dwyrain Swydd Ayr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Dwyrain Swydd Ayr yn yr Alban

Un o awdurdodau unedol yr Alban yw Dwyrain Swydd Ayr (Gaeleg yr Alban: Siorrachd Inbhir Àir an Ear; Saesneg: East Ayrshire). Mae'n cynnwys rhan ddwyreiniol yr hen Swydd Ayr. Mae'n ffinio a Gogledd Swydd Ayr, Dwyrain Swydd Renfrew, De Swydd Lanark, De Swydd Ayr a Dumfries a Galloway. Y ganolfan weinyddol yw Kilmarnock.

Creuwyd ffiniau'r sir newydd yn 1996, fel olynydd uniongyrchol i hen ranbarthau Kilmarnock and Loudoun a Cumnock and Doon Valley. Kilmarnock yw'r dref fwyaf a Stewarton yr ail-fwyaf. Y trefi eraill yw New Cumnock a Cumnock.

Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato