Dwyrain Kilbride, Strathaven a Lesmahagow (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Dwyrain Kilbride, Strathaven a Lesmahagow
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dwyrain Kilbride, Strathaven a Lesmahagow yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolLisa Cameron SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oKilbride
Clydesdale
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Dwyrain Kilbride, Strathaven a Lesmahagow yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, etholaeth a welodd gyfuno dwy hen etholaeth: Kilbride a Clydesdale. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Lisa Cameron, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid Nodion
2005 Adam Ingram Llafur Cyn-AS dros Ddwyrain Kilbride
2010 Michael McCann Llafur
2015 Lisa Cameron Plaid Genedlaethol yr Alban
2017 Lisa Cameron Plaid Genedlaethol yr Alban
2019 Lisa Cameron Plaid Genedlaethol yr Alban

Enwau trefi yn yr etholaeth yw East Kilbride, Strathaven a Lesmahagow.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|