Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
|
|||||
| Arwyddair: "In tutela nostra Limuria" (Lladin am "Limuria sydd yn ein gofal" |
|||||
| Anthem: God Save the Queen (swyddogol) Cân Genedlaethol Swyddogol: "I Vow to Thee, My Country" |
|||||
| Prifddinas | Diego Garcia | ||||
| Dinas fwyaf | Diego Garcia | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg | ||||
| Llywodraeth | Tiriogaeth Dramor Brydeinig | ||||
| Y Frenhines Comisiynydd Gweinyddwr |
Elisabaeth II Colin Roberts John McManus |
||||
| Crewyd |
1965 | ||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
60 km² (n/a) 99.89 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2004 - Dwysedd |
4,000 (n/a) 58.3/km² (n/a) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif n/a n/a (n/a) n/a (n/a) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (n/a) | n/a (n/a) – dim | ||||
| Arian cyfred | Doler yr Unol Daleithiau (USD) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
(UTC+6) | ||||
| Côd ISO y wlad | .io | ||||
| Côd ffôn | ++246 |
||||
Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig a leolir yng Nghefnfor India yw Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India (Saesneg: British Indian Ocean Territory (BIOT)). Mae'n cynnwys chwech o atolau Ynysfor y Chagos â mwy na 1000 o ynysoedd unigol.
Diego Garcia yw'r ynys fwyaf, sydd heddiw yn faes milwrol i'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Wedi i'r boblogaeth frodorol, y Chagossiaid, gael ei halltudio yn y 1960au, personél milwrol Prydeinig ac Americanaidd a chontractwyr yw'r unig drigolion.
Cynnwys |
Daearyddiaeth [golygu]
Lleolir Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India rhyw 1,770 km i ddwyrain Mahé, prif ynys y Seychelles. Ynysfor o 55 o ynysoedd yw BIOT ac mae'n ymestyn dros 54,400 km² o Gefnfor India. Mae gan yr ynysoedd eu hunain arwynebedd tir o 60 km² yn unig, ac arfordir 698 km. Diego Garcia yw'r ynys fwyaf a mwyaf ddeheuol, a ganddi arwynebedd 44 km². Poeth a llaith yw hinsawdd yr ynysoedd a gwastad ac isel yw'r tir.
Gwleidyddiaeth [golygu]
Statws cyfansoddiadol [golygu]
Diffinir statws cyfansoddiadol BIOT gan Orchymyn Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India (Cyfansoddiad) 2004 sy'n rhoi Comisiynydd Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India yr holl rym dros ddeddfu yn y Diriogaeth. Mae cytundebau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn rheoli materion parthed defnydd y Diriogaeth er amddiffyn, megis awdurdod dros bersonél milwrol Americanaidd.
Cysylltiadau tramor [golygu]
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am gysylltiadau tramor BIOT. Mae BIOT yn cysylltu â San Steffan trwy Gyfarwyddiaeth Tiriogaethau Tramor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Economi [golygu]
Oherwydd absenoldeb brodorion yr ynysoedd, nid oes gweithgarwch economaidd, diwydiannol, nac amaethyddol yn y Diriogaeth bellach. Cyflawnir gwaith adeiladu ar y canolfan milwrol yn Diego Garcia gan bersonél milwrol Prydeinig ac Americanaidd a gweithwyr sifil ar gontract, y mwyafrif ohonynt o Mauritius a Philipinas.
|
|
|
|---|---|
| Gwlad neu ranbarth |
|
| Tiriogaethau tramor |
Anguilla · Bermuda · De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De · Gibraltar · Montserrat · Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha · Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig · Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India · Ynysoedd Cayman · Ynysoedd y Falklands · Ynysoedd Pitcairn · Ynysoedd Turks a Caicos · Yr Ynysoedd Virgin Prydeinig |
| Tiriogaethau dibynnol y Goron | Jersey · Ynys y Garn · Ynys Manaw |
| Ardaloedd Canolfan Sofranaidd | Akrotiri a Dhekelia |
