Y Gyngres Geltaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sefydlwyd Y Gyngres Geltaidd yn 1902, ond ni chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf tan 1917, yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ei nod yw hyrwyddo gwybodaeth, defnydd a gwerthfawrogiad o ieithoedd a diwylliant y chwe gwlad Geltaidd, sef yr Alban, Llydaw, Cymru, Iwerddon, Cernyw ac Ynys Manaw. Mae cangen genedlaethol ym mhob un o'r chwe gwlad yma.

Yn wahanol i'r Undeb Celtaidd, mae'r Gyngres Geltaidd yn anwleidyddol. Cynhelir cynhadledd flynyddol, ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd yn eu tro.


[golygu] Cysylltiad allanol

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill