Undod Celtaidd

Oddi ar Wicipedia
Undod Celtaidd
Map o wledydd Celtaidd; gwyrdd: Iwerddon, glas: Yr Alban, coch: Cymru, melyn: Cernyw, du: Llydaw.

Mae undod Celtaidd yn cyfeirio at undod gwleidyddol, cydweithio a chynghreiriau rhwng y gwledydd Celtaidd. Mae'n enghraifft o syniadaeth Pan-Geltaidd.

Mudiad modern[golygu | golygu cod]

Yn 2010, ffurfiodd Plaid Cymru a’r SNP “Cynghrair Celtaidd” gyda’r nod o gynyddu eu dylanwad ar lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy gytundebau dros bolisïau a chyllid.[1]

Cynigwyd Undeb Celtaidd fel dewis amgen i Brexit.[2][3]

Yn 2016, awgrymodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban ar y pryd goridor Celtaidd o fusnes rhwng yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.[4]

Yn mis Ionawr 2019, awgrymodd arweinydd Plaid Cymru y pryd, Adam Price y gallai'r gwledydd Celtaidd ffurfio Banc Datblygu Celtaidd yn ogystal a rhyw fath o undeb gwleidyddol Celtaidd.[5] Yn 2020, awgrymodd greu Undeb Celtaidd eto ond rhwng Cymru a'r Alban y tro hwn.[6]

Yn mis Hydref 2019 dywedodd Llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald wrth gynhadledd Plaid Cymru ei bod hi'n "Amser i adeiladu diwylliant gwleidyddol pan-Geltaidd i drechu Torïaeth’".[7]

Yn 2020, awgrymodd y newyddiadurwr Gina Tonic “Weriniaeth Geltaidd Unedig” gan gynnwys yr Alban, Cymru, Cernyw, Ynys Manaw, Llydaw ac Iwerddon Unedig.[8]

Yn 2021 awgrymwyd Undeb Celtaidd a phosibilrwydd Undeb Gaelaidd yn cynnwys Yr Alban ac Iwerddon gan un newyddiadurwr.[9]

Yn 2022, awgrymodd y newyddiadurwr Ifan Morgan Jones y gallai gwledydd Celtaidd o fewn y Deyrnas Unedig ffurfio "undeb o fewn undeb" er mwyn sicrhau dylanwad a hunan-ymreolaeth. Awgrymodd y gallai mwy o ymreolaeth neu annibyniaeth fel undeb ffurfiol neu fel cynghrair, gynnig rhyw fath o sicrwydd.[10]

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru "Y Dreftadaeth Geltaidd - Cytundeb Cydweithio Cernyw-Cymru" yn canolbwyntio ar gydweithredu yn y meysydd canlynol;

  • tai cynaliadwy
  • cyflawni sero net
  • economïau gwledig
  • diwylliant ac iaith[11]

Ym mis Awst 2023, cyfarfu arweinwyr gwleidyddol o Iwerddon, yr Alban, Cymru, Cernyw, Llydaw, Galisia ac Asturias yn y Fforwm Celtaidd cyntaf erioed. Roedd y meysydd a drafodwyd yn cynnwys "Erasmus Celtaidd", trafnidiaeth forwrol, pysgota ac ynni gwynt ar y môr ac ieithoedd brodorol. Ymysg ieithoedd brodorol y gwledydd hynny ceir Astwrieg, Llydaweg, Cernyweg, Galiseg, Gwyddeleg, Gaeleg, a Chymraeg.[12]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Carrell, Severin; correspondent, Scotland (2010-03-31). "SNP and Plaid Cymru form Celtic alliance to influence hung parliament". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-09-22.
  2. "David Hamill: A Celtic Union as a Brexit alternative?". www.scotsman.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.
  3. "Why a Celtic union could counter Brexit". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.
  4. "Scottish first minister backs calls for 'Celtic corridor'". Independent.ie (yn Saesneg). 2016-11-29. Cyrchwyd 2023-09-22.
  5. Nualláin, Irene Ní (2019-01-10) (yn en). Welsh party leader calls for Celtic political union. https://www.rte.ie/news/2019/0110/1022489-welsh-party-leader-calls-for-celtic-political-union/.
  6. "Adam Price: Scotland and Wales must form our own Celtic Union". The National (yn Saesneg). 2020-11-28. Cyrchwyd 2023-09-22.
  7. "'Time to build a pan-Celtic political culture to defeat Toryism' - Sinn Féin President tells Plaid Cymru conference | An Phoblacht". www.anphoblacht.com. Cyrchwyd 2023-09-22.
  8. Tonic, Gina (2020-06-08). "The Case for a United Celtic Republic". Vice (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.
  9. Editors, Glasgow Guardian (2021-09-25). "Thought Experiment: A Celtic Union". The Glasgow Guardian. Cyrchwyd 2023-09-22.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  10. NationCymru (2022-06-12). "Might a 'Celtic union' be one route to shifting the balance of power within the UK?". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.
  11. "Datganiad Ysgrifenedig: Y Dreftadaeth Geltaidd – Cytundeb Cydweithio Cernyw-Cymru (18 Gorffennaf 2023) | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2023-07-18. Cyrchwyd 2023-09-22.
  12. "What is the Celtic Forum and why are leaders meeting in Brittany?". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.