Argyll a Bute

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Argyll a Bute yn yr Alban

Mae Argyll a Bute (Saesneg : Argyll and Bute ; Gaeleg : Earra-Ghaidheal agus Bòd) yn un o 32 awdurdod unedol yr Alban, a leolir yng ngorllewin canolbarth y wlad. Lleolir canolfan weinyddol y cyngor yn Lochgilphead.

Argyll a Bute yw'r ardal weinyddol ail fwyaf yn yr Alban. Os cynhwysir yr ynysoedd niferus, ceir dros 3,000 milltir o arfordir, sy'n fwy nag arfordir cyfan Ffrainc.

Mae'r cyngor yn ffinio ag Ucheldir, Perth a Kinross, Stirling a Gorllewin Swydd Dunbarton. Mae ei ffin yn rhedeg trwy Loch Lomond. Ffurfiwyd yr ardal cyngor bresennol yn 1996.

Trefi a phentrefi[golygu]

Ynysoedd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]