Iseldiroedd yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Iseldiroedd yr Alban mewn gwyrdd golau, yr Ucheldiroedd mewn gwyrdd tywyll

Iseldiroedd yr Alban (Saesneg: Scottish Lowlands, Gaeleg: a' Ghalldachd) yw'r rhannau o dde a dwyrain yr Alban sydd heb fod yn rhan o Ucheldiroedd yr Alban. Fe'i hystyrir fel yr holl diriogaeth i'r de a'r dwyrain o linell rhwng Stonehaven a Helensburgh. Ambell dro ystyrir Caithness fel rhan o'r Iseldiroedd.

Er gwaethaf yr enw, mae rhai rhannau o'r Isleldiroedd yn bur fynyddig, yn arbennig y Southern Uplands, lle mae'r copa uchaf, Merrick, yn cyrraedd 843 medr. I'r gogledd o'r rhain, mae ardal o dir isel lle ceir y rhan fwyaf o boblogaeth yr Alban, yn cynnwys dinasoedd Caeredin a Glasgow.