Cyfnod (daeareg)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cyfnodau Daearegol)

Mewn daeareg, rhennir amser yn sawl rhan, er mwyn drwpio cerrig a digwyddiadau gyda'i gilydd; mae'r term cyfnod (Saesneg: period) yn cael ei ddefnyddio am un o'r rhaniadau hyn. O fewn cyfnod daearegol, ceir sawl rhaniad pellach ar ffurf hierarchaeth a seiliwyd gan ddaearegwyr er mwyn hollti a threfnu hanes planed Daear yn daclus.

Mae 'eon' a 'gorgyfnod' (era) yn fwy na chyfnod ac mae 'epoc' ac oes' yn llai. Ni yw'r presennol yn cael ei gyfrif oddi fewn i gyfnod, na'r blynyddoedd diwethaf - hyd at 2500 miliwn o flynyddoedd CP; mae'r defnydd o gyfnodau'n cychwyn o 2500 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r term ‘system’ yn cyfeirio at y creigiau a ffurfiwyd yn ystod cyfnod daearegol.

Yn y tabl canlynol, cynhwysir pob cyfnod a dderbynir yn swyddogol yn 2015:

Eon Gorgyfnod
Era
Cyfnod
Period
Miliwn
Cyn y Presennol
CP
Ysbaid o amser y parhaodd:
Miliwn o flynyddoedd
Ffanerosöig Cenosöig Cwaternaidd 2.588–0 2.588+
Neogen (Mïosen/Pliosen) 23.03–2.588 20.4
Paleogen (Paleosen/Ëosen/Oligosen) 66.0–23.03 42.9
Mesosöig Cretasaidd 145.5–66.0 79.5
Jwrasig 201.3–145.0 56.3
Triasig 252.17–201.3 50.9
Paleosöig Permaidd 298.9–252.17 46.7
Carbonifferaidd (Mississippian/Pennsylvanian) 358.9–298.9 60
Defonaidd 419.2–358.9 60.3
Silwraidd 443.4–419.2 24.2
Ordofigaidd 485.4–443.4 42
Cambriaidd 541.0–485.4 55.6
Proterosöig Neoproterosöig Ediacaraidd 635.0–541.0 94
Cryogenaidd 850–635 215
Tonaidd 1000–850 150
Mesoproterosöig Stenaidd 1200–1000 200
Ectasaidd 1400–1200 200
Calymmaidd 1600–1400 200
Paleoproterosöig Statheraidd 1800–1600 200
Orosiraidd 2050–1800 250
Rhyacaidd 2300–2050 250
Sideraidd 2500–2300 200
e  h
Unedau daearegol mewn amser a stratigraffeg[1]
Talpiau o (strata) creigiau mewn stratigraffeg Cyfnodau o amser mewn cronoleg daearegol Nodiadau
Eonothem
Eon
cyfanswm o 4, hanner biliwn o flynyddoed, neu ragor
Erathem
Gorgyfnod
cyfanswm o 10, sawl can miliwn o flynyddoedd
System
Cyfnod
diffiniwyd 22, degau i ~miliwn o flynyddowedd
Cyfres
Cyfres (Epoc)
degau o filiynnau o flynyddoedd
Uned
Oes
miliynnau o flynyddoedd
Chronozone
Chron
llai nag oes, nis defnyddir yn llinell amser yr ICS

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  1. Comisiwn Rhyngwladol ar Stratograffeg. "International Stratigraphic Chart" (PDF).