Treharris
Oddi ar Wicipedia
Tref fechan yn rhan ddeheuol Merthyr Tudful yn ne Cymru yw Treharris. Saif tua 1 km i'r gorllewin o dref Trelewis, ar y briffordd A472. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 11,000.
Sefydlwyd y dref o amgylch gwaith glo yr Harris's Navigation Colliery, a agorwyd yn 1878. Enwyd y gwaith glo a'r dref ar ôl Frederick William Harris, perchennog yr Harris Navigation Steam Coal Company. Ceir Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydygrug yno.
Trefi a phentrefi Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Aberfan · Abercanaid · Beddllwynog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Pentrebach · Pontsticill · Treharris · Trelewis · Troedyrhiw · Merthyr Tudful · Mynwent y Crynwyr · Ynysowen