Pentrebach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful yw Pentrebach, weithiau Pentre-bach.

Saif i'r de o ganol tref Merthyr Tudful, yr ochr arall o Afon Taf i bentref Abercannaid ac i'r gogledd o bentref Troed-y-rhiw. I'r dwyrain o'r pentref mae Mynydd Cilfach-yr-Encil (445 m.).

Tyfodd y pentref wedi i John Guest sefydlu Gwaith Haearn Plymouth yn 1763. Roedd rheilffordd wreiddiol Trevethick, a adeiladwyd yn 1804, yn arwain trwy'r pentref ar ei ffordd rhwng Penydarren ac Abercynon. Mae twnel yn yn dal i'w weld yma. Agorwyd Glofa South Duffryn yn 1862.