Aberfan
Cyfesurynnau: 51°41′36″N 3°20′45″W / 51.693283°N 3.345723°W
| Aberfan | |
Yr olygfa o'r de. |
|
|
|
|
| Cyfeirnod grid yr AO | SO070002 |
|---|---|
| Cymuned | Dyffryn Merthyr |
| Prif ardal | Merthyr Tydfil |
| Sir seremonïol | Merthyr Tydfil |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | Merthyr Tydfil |
| Rhanbarth cod post | CF48 |
| Cod deialu | 01443 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Merthyr Tudful a Rhymni |
| Cynulliad Cymru | Merthyr Tudful a Rhymni |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • | |
Mae Aberfan yn bentref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful. Rhed yr Afon Taf yn ogystal a Llwybr Taf (sy'n dirwyn o Droed-y-rhiw, i Dreharri) trwy'r pentref. Saif tua 6.4 km i'r de o Ferthyr Tydfil. Ceir dwy ysgol yma: Ysgol Gynradd Ynysowen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-Y-Grug.
Trychineb Aberfan [golygu]
Ar ddydd Gwener yr 21ain o Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen lo o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.
Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant swn mawr y tu allan. Roedd yr ystafelloedd dosbarth ar ochr y tirlithriad.
Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynwyd i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd y meirw. Darganfuwyd fod y tomen lo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethwyd dim am y mater. Dywedwyd fod dwr wedi cynyddu yn y pentwr o wastraff ar ben y mynydd gan achosi i'r gwastraff lifo i lawr y mynydd.
Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 ym 1997, ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.
Caewyd y pwll glo ym 1989.
Ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan, fel rhyw fath o iawndal am yr arian a gafodd y llywodraeth yn y cyfnod yn union ar ôl y drychineb.
Cyfeiriadau [golygu]
Aberfan · Abercanaid · Beddllwynog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Pentrebach · Pontsticill · Treharris · Trelewis · Troedyrhiw · Merthyr Tudful · Mynwent y Crynwyr · Ynysowen