Joseph Parry

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfansoddwr a cherddor Cymreig oedd Joseph Parry (21 Mai 184117 Chwefror, 1903). Ei enw yng Ngorsedd y Beirdd oedd Pencerdd America; fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865.

Wedi gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa, ymfudodd gyda'i deulu yn 1854 i Pensylfania, UDA, lle gweithiodd mewn melin haearn. Cafodd flas ar astudio cerddoriaeth yno hefyd gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Cafodd ysgoloriaeth i'r Adran Gerdd Frenhinol yn Llundain a derbyniodd radd MusB yn 1871 gan Brifysgol Caergrawnt. Yn wir, yn 1874 cafodd ddyrchafiad i fod yn Athro cerdd cynta'r coleg. Yna dychwelodd i Gymru i fod yn gyfrifol am Adran gerdd Prifysgol Caerdydd.

Fe'i ganed ym 4 Chapel Row, Merthyr Tudful.[1] Ysgrifennodd lawer o ganeuon enwog, ac yn eu plith y mae: 'Myfanwy', 'Hywel a Blodwen' a'r emyn-dôn 'Aberystwyth'. Cyfansoddodd yr opera gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Blodwen. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog iawn; yn ystod ei oes ysgrifennodd chwech o operâu.

Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg yn 1903.

Ysgrifennodd Jack Jones y llyfr Off to Philadelphia in the Morning yn seiliedig ar hanes Joseph Parry.

Llyfryddiaeth[golygu]

Ffynnonellau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.