Tudful
Oddi ar Wicipedia
Santes a roddodd ei henw i dref Merthyr Tudful oedd Tudful (bu farw c. 480).
Yn ôl y chwedl, roedd Tudful yn ferch i Brychan Brycheiniog. Dywedir iddi gael ei lladd "gan baganiaid" ger Merthyr Tudful. Fodd bynnag, gall 'merthyr' yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)"; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr, a cheir merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[1] Gall fod y chwedl am ei lladd wedi datblygu fel ymgais i esbonio'r enw "Merthyr Tudful".
Ei dydd gŵyl yw 23 Awst.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.