Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr y nofel Gwrthryfel Merthyr (2004) gan Janet Davies.

Ym 1831 daeth rhai flynyddoedd o aflonyddwch ynysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau at uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr neu Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful (hefyd, Terfysg Merthyr).

Cychwyn[golygu]

Trwy gydol mis Mai 1831, gorymdeithiodd glöwyr ac eraill oedd yn gweithio i William Crawshay ar strydoedd Merthyr Tudful, i brotestio yn erbyn diweithdra a gostyngiad yn eu cyflogau ac i galw am ddiwygiadau. Yn raddol, lledaenodd y brotest i ardaloedd diwydiannol cyfagos, ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan yn gwrthryfela.

Anrheithiodd y gwrthryfelwyr lys y dyledwyr a'r nwyddau oedd wedi eu casglu. Dinistrwyd llyfrau ag ynddynt manylion y dyledwyr. Gwaeddwyd 'Caws a bara' ac 'I lawr â'r Brenin'.

Digwyddiadau[golygu]

Ar ddechrau Mehefin 1831, gorymdeithiodd y protestwyr i'r pyllau glo lleol, a darbwyllo'r glöwyr i adael eu gwaith ac ymuno â'r brotest. Yn y cyfamser, roedd llywodraeth San Steffan wedi rhoi gorchymun i'r fyddin ymyrryd, a daeth aelodau o Ucheldirwyr Argyll a Sutherland i ail-sefydlu'r drefn. Erbyn hynny, roedd y dorf yn rhy fawr i'w gwasgaru, felly gorchmynwyd i'r milwyr amddiffyn y Castle Inn, lle'r oedd cyflogwyr lleol ac ynadon yn cynnal cyfarfod. Pan glywodd y gweithwyr am y cyfarfod, aethont yna i ofyn am leihad ym mhris bara a chynnydd i'w cyflogau. Gwrthodwyd eu cais, a chynghorwyd i bobl ddychwelyd i'w cartrefi.

Pan wrthododd y dorf wasgaru, dechreuodd y milwyr eu saethu, a lladdwyd sawl un. Meddiannodd y dorf y dref wedyn, gan sefydlu gwarchaeau ar y ffyrdd. Datarfogwyd Gwŷr Meirch Abertawe wrth iddyn gyrraedd o Aberdâr, ac anfonwyd negeseuon i drefi a phentrefi cyfagos er mwyn gofyn i'r bobl ymuno â'r gwrthryfel.

Canlyniadau[golygu]

Erbyn 7 Mehefin 1831, ad-enillasai'r awdurdodau reolaeth ar y dref trwy drais. Arestiwyd 26 o bobl a'u rhoi ar brawf am gymryd rhan yn y gwrthryfela. Dedfrydwyd rhai i garchar ac eraill i'w halltudio i Awstralia; a dedfrydwyd dau - Dic Penderyn a Lewsyn yr Heliwr - i farwolaeth, y naill am drywanu milwr o'r enw Donald Black yn ei goes a'r llall am ysbeilio.

Atalwyd cosb Lewsyn yr Heliwr pan dystiodd un o swyddogion yr heddlu y bu i Lewsyn ei amdiffyn o'r dorf, ond roedd llywodraeth San Steffan, dan arweiniad yr Arglwydd Melbourne, yn benderfynol y dylai o leiaf un gwrthryfelwr farw fel enghraifft. Ond roedd pobl Merthyr Tudful wedi ei hargyhoeddi nad Dic Penderyn oedd yn gyfrifol am drywanu'r milwr, a llofnododd 11,000 o bobl ddeiseb yn galw am ryddhau Dic. Gwrthododd y llywodraeth, ac fe'i grogwyd ym marchnad Caerdydd ar 31 Awst, 1831. Ym 1874 daeth yn glir mar dyn o'r enw Ianto Parker oedd wedi trywanu Donald Black,[1] ac yna ffoi i America, a bod y tyst James Abbott wedi dweud celwyddau dan llw, ar orchymun yr Arglwydd Melbourne er mwyn sicrhau dedfryd Dic Penderyn.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sekar, Satish (2012). The Cardiff Five: Innocent Beyond Any Doubt. Waterside Press, tud. 182