Gwaith Haearn Penydarren

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Gwaith Haearn Penydarren yn un o'r pedwar gwaith haearn mawr yn ardal Merthyr Tudful yn ne Cymru. Sefydlwyd y gweithfeydd yn 1784 gan y brodyr Samuel, Thomas a Jeremiah Homfray.

Gadawodd Samuel Homfray y busnes yn 1813. Yn 1819, y partneriaid oedd William Forman a William Thompson. Gwerthwyd y gwaith gan William Forman yn 1859, ac fe'i prynwyd gan berchenogion Gwaith Haearn Dowlais. Defnyddiwyd y gweithfeydd yn ysbeidiol hyd 1883, a gellir gweld rhai olion o hyd.

Gan mai eiddo perchenogion Gwaith Haearn Cyfarthfa yn bennaf oedd Camlas Morgannwg, adeiladodd gweithfeydd haearn eraill Merthyr dramffordd i Abercynon, a elwid wrth yr enw "Tramffordd Merthyr" yn swyddogol, ond yn aml fel "Tramffordd Penydarren". Defnyddiwyd y dramffordd yma gan Richard Trevithick i brofi ei locomotif ager cyntaf.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • L. Ince, The South Wales Iron Industry 1750-1885 (1993), 57-60 79-80 etc.
  • G. Rattenbury and M.J.T. Lewis. Merthyr Tydfil Tramroads and their Locomotives (Railway & Canal Historical Society, 2004).
Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato