Ardal y Crochendai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffiguryn crochenwaith o saethwr a wnaed yn Swydd Stafford tua 1825.

Ardal ddiwydiannol yn Swydd Stafford, Lloegr, a gysylltir â chrochenwaith yw Ardal y Crochendai[1] (Saesneg: The Potteries neu the Staffordshire Potteries) sy'n cynnwys trefi Tunstall, Burslem, Hanley, Stoke, Fenton a Longton (sydd bellach yn ffurfio dinas Stoke-on-Trent).[2] Daeth yr ardal yn ganolfan i gynhyrchiad gweithiau seramig yn yr 17eg ganrif, ac ymysg y crochendai enwog o'r ardal yw Minton, Moorcroft, a Wedgwood.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1061 [pottery].
  2. Bryant, Frances. Staffordshire Figures 1835–1880 (Princes Risborough, Shire Publications, 2005), t. 6.
EnglandStaffordshire.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Stafford. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato