John Frost

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John Frost

Un o arweinwyr y Siartwyr oedd John Frost (25 Mai 178427 Gorffennaf 1877).

Ganed ef yng Nghasnewydd-ar-Wysg, lle roedd ei dad, hefyd yn John Frost, yn cadw tafarn y Royal Oak. Bu'n brentis dilledydd yng Nhaerdydd, Bryste a Llundain cyn dychwelyd i Gasnewydd i agor ei fusnes ei hun. Priododd Mary Geach yn 1812, a chawsant wyth o blant.

Etholwyd ef yn gynghorydd yn 1835, ac yn ddiweddarach yn ustus heddwch ac yn faer Casnewydd, ond collodd ei safle oherwydd ei fod yn un o arweinwyr y Siartwyr. Roedd y Siartwyr yn brwydro am hawliau sylfaenol megis yr hawl i bob dyn dros 21 oed gael bwrw ei bleidlais, yr hawl i bleidlais gudd ac am gyflog i aelodau seneddol.

Yr orymdaith i Gaerdydd[golygu]

Ar 4 Mawrth 1839, arweiniodd Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o tua 3,000 o Siartwyr i Gasnewydd, gan geisio rhyddhau Siartwyr oedd wedi eu carcharu yn y Westgate Hotel. Daeth dilynwyr Frost o'r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lynebwy a chriw Jones o Bont-y-Pŵl. Roedd llawer o golofnau'r sefydliad yn y gwesty ynghyd â 60 o filwyr arfog. Taniwyd at y 'mob' gan filwyr Lloegr y tu allan i westy'r Westgate am tua 25 munud o gythrwfwl, a bu farw 22 o bobl ac anafwyd dros hanner cant.

Dedfrydu[golygu]

Rhoddwyd Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar eu prawf, eu cael yn euog a'u dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru.[1] Wedi protest gyhoeddus, newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth; aed â Frost i Van Diemen's Land (Tasmania heddiw). Rhoddwyd pardwn iddo yn 1854, ar yr amod nad oedd yn dychwelyd i Brydain, a bu'n teithio o amgylch yr Unol Daleithiau yn darlithio. Yn 1856 dychwelodd i Wledydd Prydain a bu farw ym Mryste yn 1877 yn 93 oed.

I Tasmania hefyd yr anfonwyd Zephaniah lle bu farw yn 1874 yn ŵr cyfoethog iawn. Mab iddo oedd y telynor Pencerdd y De.

Cyfeiriadau[golygu]