Zephaniah Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o arweinwyr Terfysg Casnewydd yn 1839 oedd Zephaniah Williams (1795 - 8 Mai 1874). Yn enedigol o Argoed, Sir Fynwy. Cafodd peth addysg ac hefyd addysgodd ei hun, yn arbennig mewn daeareg. Yn 25ain oed priododd Joan. Roedd ganddo syniadau radical cryf. daeth yn golier ac wedyn yn brif golier a byddai yn talu ei lowyr yn y dafarn yr oedd yn ei gadw, sef y Royal Oak, yn Nantyglo.

Siartwyr[golygu]

Dyn annibynol ei farn, oedd Zephaniah Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol i ymgyrch y siartwyr yn Ne Cymru.

Terfysg Casnewydd[golygu]

Arweiniodd torf o ddynion o ardal Nantyglo i lawr i Gasnewydd, ac at Westy'r Westgate ble roedd rhai o hoelion wyth y siartwyr wedi eu dal gan dros 30 o filwyr. Ei gyd-arweinwyr oedd John Frost a William Jones (Siartydd). Yn ôl rhai haneswyr, dyma'r gwrthryfel mwyaf a chryfaf yng ngwledydd Prydain yn y 19eg ganrif.[1].

Alltudiaeth i Awstralia[golygu]

Cafodd ef a'r ddau arweinydd arall eu dedfrydu i'w crogi a'u chwarteru yn 16eg o Ionawr 1840, ond ar ôl protest gryf iawn, newidiwyd hyn i alltudiaeth i Van Diemen's Land (Tasmania, heddiw) yn Awstralia.

Gwneud ei ffortiwn[golygu]

Ar un cyfnod, gwyddom iddo gynllunio i ddianc o'r cyfandir ond cafodd bardwn amodol yn 1854 yn gadael iddo fyw unrhywle yn y Deyrnas Unedig. Penderfynodd aros yn Tasmania a daeth ei wraig a'i blant i fyw gyda fe. Wrth ddarganfod glo a'i fwyngloddio gwnaeth ffortiwn wrth sefydlu masnach lo Tasmania.

Bu farw'n ŵr cefnog iawn yn Launceston, Tasmania ym Mai, 1874.

Ffynonellau[golygu]

  1. Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996

Dolenni allanol[golygu]