Y Grysmwnt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr olygfa o'r Grysmwnt o Lwybr y Tri Chastell, yr ochr ogleddol i Graig Syfyrddin.

Pentref yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw Y Grysmwnt (neu Rhosllwyn), (Saesneg: Grosmont); Cyfeirnod OS: SO4024. Fe'i lleolir yng ngogledd eithaf y sir, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr.

Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei gastell Normanaidd, Castell y Grysmwnt, ar lan Afon Mynwy.

Codwyd y 'mwnt' (rhan o'r hen gastell ar ffurf bryncyn) yn y 13eg ganrif gan roi i'r pentref ei enw. Gair Ffrangeg oedd 'Gros' yn golygu mawr: 'Y Bryncyn Mawr'. Ymddangosodd yr enw Grosso Monte yn 1137. Nid yw 'Dictionary of Place-Names' yn crybwyll yr enw 'Rhosllwyn'.[1]

Cafodd Rhys Gethin ei lorio ym Mrwydr Grosmwnt pan gollodd fil o ddynion.


Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Grysmwnt (pob oed) (920)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Grysmwnt) (107)
  
12%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Grysmwnt) (420)
  
45.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Grysmwnt) (103)
  
29.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dictionary of Place-Names gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2007
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013