Afon Gwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Gwy ger y Gelli Gandryll

Afon sy'n llifo o lethrau dwyreiniol Pumlumon i Afon Hafren (ger Cas-gwent) yw Afon Gwy (Saesneg: River Wye). Llifa trwy Gymru a Lloegr, ac mewn rhannau mae'n ffurfio'r ffîn rhwng y ddwy wlad. Gyda hyd o 215 km (135 milltir), hi yw'r ail hwyaf o'r afonydd sy'n llifo trwy Gymru, ar ôl afon Hafren, a'r bumed hwyaf ar ynys Prydain. Dalgylch yr afon yw 4136 km². Mae nifer o drefi ac atyniadau i ymwelwyr ar lan yr afon: Rhaeadr Gwy, Llanfair ym Muallt, Y Gelli Gandryll, Henffordd, Rhosan ar Wy, Symonds Yat, Trefynwy a Thyndyrn a Chas-gwent. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SGDA) ac mae'n bwysig o safbwynt cadwriaethol. Ger Afon Hafren, mae'r dyffryn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE).

Tarddiad yr enw[golygu]

Dywed Owen a Morgan y gallai'r enw fod yn gyn-Geltaidd, ond fod y Frythoneg *guo- yn ôl pob tebyg yn darddiad iddo, a'i fod yn gytras a'r gair Cymraeg "gŵyr", yn cyfeirio at droeadau'r afon.[1]

Cwrs yr afon[golygu]

Edrych i lawr Afon Gwy o'i tharddle

Ceir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Pumlumon, cyf. OS SN802871, yn sir Powys ond yn agos iawn at y ffîn â Cheredigion. Nid yw tarddle Afon Hafren ymhell, ar lethrau gogleddol Pumlumon. Mae afon Gwy yn llifo tua'r de-ddwyrain, gydag afon Tarennig yn ymuno a hi ger Pont Rhydgaled, i gyrraedd Llangurig, lle mae'n troi tua'r de. Mae afon Marteg yn ymuno a hi cyn iddi gyrraedd tref Rhaeadr Gwy, ac ychydig islaw'r dref mae afon Elan yn ymuno a hi. Llifa ymlaen tua'r de a'r de-ddwyrain heibio Llanwrthwl a Bontnewydd ar Wy cyn i afon Ieithon ymuno a hi. Gerllaw Llanfair-ym-Muallt, mae afon Irfon yn ymuno. Ymhellach tua'r de, llifa heibio Aberedw, lle mae afon Edw yn ymuno, yna heibio Erwyd, Bochrwyd a Llys-wen. Oddi yma, mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain i lifo heibio'r Clas-ar-Wy a'r Gelli Gandryll.

Afon Gwy a thref Cas-gwent

O'r Gelli Gandryll ymlaen, ffurfia'r afon y ffîn rhwng Cymru a Lloegr wrth iddi lifo ymlaen tua'r gogledd, cyn iddi droi tua'r dwyrain eto i mewn i Loegr a Swydd Henffordd. Llifa heibio Bredwardine ac yna trwy ddinas Henffordd. Ychydig islaw Henffordd, mae afon Llugwy yn ymuno a hi. Oddi yno mae'n dolennu tros y gwastadeddau i gyfeiriad y de, i gyrraedd Rhosan ar Wy, ac wedi llifo heibio Symonds Yat mae'n croesi'r ffîn yn ôl i Gymru yn Sir Fynwy, lle mae afon Mynwy yn ymuno a hi gerllaw Trefynwy, ac afon Troddi yn ymuno yn fuan wedyn. Ychydig ymhellach i'r de, ger Redbrook, mae afon Gwy unwaith eto yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am y 16 milltir diwethaf o'i chwrs. Llifa heibio i dref Cas-gwent a than Bont Gwy, sy'n rhan o Bont Hafren, i ymuno ag aber afon Hafren.

Hanes[golygu]

Afon Gwy, Llanfair ym Muallt

Adeiladodd y Rhufeiniaid bont o goed a meini ychydig uwchlaw lle mae Cas-gwent heddiw. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Yn nechrau'r 1660au, bu Syr William Sandys yn gweithio i alluogi morio hyd bwynt ychydig islaw Henffordd, a rhoddodd mesur seneddol yn 1696 yr hawl i Swydd Henffordd ddychwel melinau ac argaeau ar hyd y rhan yma o'r afon. Wedi hyn, gellid cyrraedd cyn belled a'r Gelli Gandryll o leiaf.

Yn 1808, ychwanegwyd llwybr i alluogi'r defnydd o geffylau i dynnu cychod cyn belled a Henffordd, a pharhaodd y defnydd o'r afon i gario nwyddau yn bwysig hyd y 1850au, pan ddatblgodd y rheilffyrdd.

Bywyd gwyllt[golygu]

Dynodwyd holl hyd afon Gwy, o'i tharddle hyd ei haber, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[2] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.

Hamdden[golygu]

Afon Gwy ger Redbrook. Cymru ar y chwith, Lloegr ar y dde.

Dynodwyd rhan isaf Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1971. Mae'r ardal yma yn cynnwys 326 km sgwar, o Mordiford ger Henffordd i gyrion Cas-gwent, a 72 km (45 milltir) o gwrs yr afon ei hun. Ceir nifer o atyniadau i ymwelwyr yn yr ardal yma, megis Abaty Tyndyrn a Symonds Yat. Mae'n ardal boblogaidd ar gyfer cerdded, ac mae Llwybr Dyffryn Gwy yn dilyn rhan helaeth o gwrs yr afon am 136 milltir o Gas-gwent i'w tharddle ar lethrau Pumlumon, tra mae Llwybr Clawdd Offa yn cychwyn yn Sedbury ar lan ddwyreiniol yr afon, gyferbyn a Chas-gwent, ac yn dilyn yr afon am gryn bellter hefyd.

Mae Afon Gwy yn lle poblogaidd i ganŵio, gyda rhan sylweddol ohoni yn agored i'r gweithgarwch yma.

Nodiadau[golygu]

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan Dictionary of the place-names of Wales t. 498
  2. Safle SAC Afon Gwy (Saesneg)