Symonds Yat
Pentref yn Swydd Henffordd yn Lloegr yw Symonds Yat. Saif ar lan Afon Gwy, gerllaw'r ffîn rhwng Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw.
Heblaw Symonds Yat West ar ochr Swydd Henffordd yr afon, ceir Symonds Yat East ar ochr Swydd Gaerloyw, gyda fferi sy'n cael ei thynnu dros yr afon ar raff yn eu cysylltu. Mae Symonds Yat yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr, oherwydd yr olygfa o Graig Symonds Yat, 120 medr o ucher, ar ochr Swydd Gaerloyw. Heblaw y golygfeydd o'r dyffryn, lle mae'r afon wedi torri hafn ddofn yn y garreg galch Garbonifferaidd, gellir gweld pâr o'r Hebog Tramor sy'n nythu yn rheolaidd ar y graig. Mae canwïo yn boblogaidd yma hefyd.
Trefi
Llanllieni · Rhosan ar Wy
Pentrefi
Clifford · Clodock · Dilwyn · Ewyas Harold · Kentchurch · Longtown · Lower Hergest · Llanddewi Cil Peddeg · Llanveynoe · Symonds Yat · Upper Hergest · Weston under Penyard