Abaty Tyndyrn

Oddi ar Wicipedia
Abaty Tyndyrn
Mathabaty, adfeilion mynachlog Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Mai 1131 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTyndyrn Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr10.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6971°N 2.67722°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM102 Edit this on Wikidata

Abaty ar lan Afon Gwy ger pentref Tyndyrn, Sir Fynwy, Cymru, yw Abaty Tyndyrn. Fe'i sefydlwyd gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai 1131. Hon oedd yr ail sefydliad Sistersaidd yng ngwledydd Prydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'r adfeilion wedi ysbrydoli nifer o gampweithiau; cerddi Tintern Abbey gan William Wordsworth ac Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun), a nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner.

Hanes yr abaty[golygu | golygu cod]

Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn trwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a roddodd y tir cyntaf ym Mhrydain i'r Sistersiaid ynWaverley, yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc.

Dros y blynyddoedd, sefydlodd Tyndyrn ddau dŷ cangen, Abaty Kingswood yng Nghaerloyw a Tintern Parva, i'r gorllewin o Loch Garman (Wexford) yn ne-ddwyrain Iwerddon yn 1203. Roedd y mynaich Sistersaidd a oedd yn byw yn Nhyndyrn yn dilyn rheol Sant Benedict, y Carta Caritatis (Siartr Cariad), a osododd eu prif egwyddorion fel hyn:

  • Ufudd-dod
  • Tlodi
  • Diweirdeb
  • Distawrwydd
  • Gweddi
  • Gwaith

Gyda'r ffordd lem yma o fyw, y Sistersiaid oedd un o urddau mwyaf llwyddiannus y 12fed a'r 13g. Mae adfeilion Tyndyrn heddiw yn gymysgedd o adeiladwaith sy'n dyddio dros gyfnod o bedwar can mlynedd rhwng 1136 ac 1536. Ychydig iawn sy'n weddill o'r adeiladau cyntaf, cafodd rhannau o'r waliau cyntaf eu cyfuno yn yr adeiladwaith diweddarach, daw'r ddwy gwpwrdd yn y clwystai dwyreiniol o'r cyfnod hwn. Roedd y capel yn llai ac ychydig i'r gogledd yn yr adeg honno.

Rhannwyd tiroedd yr abaty yn unedau amaethyddol, neu faenorau, roedd pobl lleol yn gwithio ar y maenorau rhain gan roi gwasanaeth megis goaint i'r abaty. Roddwyd nifer o waddolion tir ar ddwy ochr o'r afon i'r abaty. Yn ystod yr 13g, ail-adeiladwyd yr abaty bron yn gyfangwbl, y clwystai yn gyntaf ac yna'r rhannau domestig, ac yn olaf y capel mawr rhwng 1269 ac 1301. Roedd Roger Bigod III, arglwydd Cas-gwent ar y pryd, yn gymwynaswr hael; ei ymgymeriad enfawr ef oedd ail-adeiladu'r capel. Rhoddodd yr abaty ei arfbais yng nghwydr y ffenest gorllewinol i ddangos eu diolchgarwch. Hon yw'r capel sydd iw weld yno heddiw. Mae ganddo gynllun croesffurf a chorff gyda eiliau; mae dau gapel ym mhob croesfa a cangell pen sgwar gyda eiliau. Mae'r capel gothig yn cynyrchiloi'r datblygiadau pensaernïol o'i adeg, mewn steil addurniadol gyfoes.

Yn 1326 ymwelodd Edward II o Loegr â Tyndyrn a dreuliodd ddwy noson yno. Yn 1349, lledaenodd y Pla Du ar drws y wlad a daeth yn amhosib i'r abaty ddenu recriwtiaid newydd ar gyfer y frawdoliaeth lleyg. Newidiodd y ffordd y gweithwyd y maenorau, gan eu rhoi i denantiaid, yn hytrach na cael eu gweithio gan y brodyr llyg, gan ddangos i Dyndyrn ddioddef prinder llafur. Yn y 1400au cynnar, dioddefodd Tyndyrn drafferthion ariannol, yn rhannol oherwydd y gwrthryfel Cymreig dan arweiniaeth Owain Glyn Dŵr yn erbyn y Saeson; dinistrwyd eiddo'r abatai gan wrthryfelwyr Cymreig. Digwyddodd y frwydr agosaf i'r abaty yn Craig y Dorth ger Mynwy, rhwng Trellech a Llanfihangel Troddi.

Yn ystod teynasiad Harri VIII o Loegr, daeth bywyd mynachlog traddodiadol i ben yn sydyn yn Lloegr a Chymru yn dilyn ei bolisi o sefydlu rheolaeth cyfangwbl dros y capel, yn rannol er mwyn cymryd mantais o holl gyfoeth y mynachlogau. Ar 3 Medi 1536, ildiodd y Mynach Wyche Abaty Tyndyrn i ymwelwyr y brenin, gan ddod a ffordd o fyw a oedd wedi goroesi pedwar can mlynedd i ben. Anfonwyd yr eitemau gwerthfawr o'r abaty i drysorfa'r brenin a pensiynwyd y Mynach Wyche. Rhoddwyd yr adeilad i Iarll Caerwrangon, gwerthwyd y plwm oddiar y tô a dechreuodd dadfeiliad cragen yr adeilad. Yn ystod y ddwy ganrif canlynol, dangoswyd prin neu ddim diddordeb yn hanes y safle.

Ailddarganfod Tyndyrn[golygu | golygu cod]

Yn y 18g daeth yn ffasiynol i ymweld a rhannau mwy gwyllt o Brydain a daeth Dyffryn Gwy yn arbennig yn adnabyddus am ei rinweddau rhamantus a darluniadwy. Ymwelwyd â'r abaty, a oedd wedi ei orchuddio gan eiddew, yn aml gan ymwelwyr dan ddylanwad y mudiad Rhamantaidd. Ar ôl cyhoeddu'r llyfr Observations on the River Wye gan y Parchedig William Gilpin yn 1782, daeth ymwelwyr i'r safle yn llu. Yn ystod y 19g, daeth adfeilion abatai yn destun ymchwil i ysgolheigion ac astudwyd eu pensaernïaeth a gwneud gwaith archaeolegol. Prynwyd yr abaty gan Ystad y Goron yn 1901 am £15,000, ac fe'i adnabyddwyd fel cofadail o bwysigrwydd cenedlaethol a gwnaed gwaith trwsio a cynnal a chadw. Yn 1914, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y safle ymlaen i'r Office of Works a gwnaethwyd gwaith trwsio strwythurol mawr — tynnwyd yr eiddew, a ystyrid i fod mor rhamantus gan ymwelwyr gynt, oddi ar yr adeilad.

Yn 1984, cymerodd Cadw gyfrifoldeb dros y safle.

Oriel[golygu | golygu cod]

Diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod]

Roedd yr abaty yn lleoliad i fideo Iron Maiden, Can I Play with Madness yn 1988. Ceir yn ogystal band o'r enw "Tintern Abbey".

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]