Pont Hafren

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pont grog yw Pont Hafren sy'n rhychwantu Afon Hafren rhwng De Swydd Gaerloyw yn Lloegr a Sir Fynwy yn Ne Cymru. Mae hi'n cludo'r draffordd M48. Y bont oedd y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr a oedd yn cludo'r draffordd M4, cyn agoriad yr Ail Groesfan Hafren. Cymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan Frenhines Elizabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig Gradd I i'r bont ym 1998.

Pont Hafren

Lleoliad[golygu]

Serch i'r Bont Hafren gael ei defnyddio i groesi rhwng Cymru a Lloegr, mae'r bont ei hun wedi'i lleoli'n gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Lloegr gyda'r pen Cymreig wedi'i leoli uwchben Penrhyn Beachley, sydd sydd y tu fewn i ffiniau Lloegr. Arferai Penrhyn Beachley, fodd bynnag, fod y tu mewn i ffiniau Cymru yn ôl hen leoliad Clawdd Offa.

Adeiledau cydrannol[golygu]

Mae'r Hafren yn cynnwys nifer o bontydd gwahanol, sef Pont Gwy, Traphont Beachley, Pont Hafren a Thraphont Aust.

Pont Gwy[golygu]

Pont 408 m (1,340 tr) o hyd sydd wedi'i hangori â cheblau yw Pont Gwy. Mae hi'n rhychwantu Gwy sydd heddiw'n nodi'r union ffin rhwng Lloegr a Chymru—2.7 km i'r de o Gas-gwent.

Traphont Beachley[golygu]

Adeiledd hytrawst deuflwch gyda wyneb concrit yw Traphont Beachley sydd wedi'i gynnal gan drestlau haearn wrth iddi grosi'r penrhyn. Saif gwersyll y fyddin ar y penrhyn.

Pont Hafren[golygu]

Lleolir Pont Hafren yn agos i leoliad yr hen Fferi Aust. Pont grog 1,597 m (5,240 tr) o hyd yw hi, sydd â dec wedi'i gynnal gan ddau brif gebl sy'n hongian rhwng dau dŵr haearn. Hyd y bwlch rhwng y ddau dŵr yw 988 m (3,240 tr). Mae'r tyrau'n wag ac yn codi 136 m (445 tr) uwchben lefel y môr.

Traphont Aust[golygu]

Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Aust ac y mae'n cario'r ffordd i angorfa gyntaf y Bont Hafren.