Porth Sgiwed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys y Santes Fair, Porth Sgiwed

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Porth Sgiwed neu Porthsgiwed (Cyfeirnod OS: ST4988); hefyd Porth Ysgewin neu Porthysgewin (Saesneg: Portskewett. Enw person yw Ysgewin, sef tarddiad y gair; yr un gair ag ysgawen, mae'n debyg. Saif i'r de-orllewin o dref Cas-gwent. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,041.

Ceir pen gollewinol Twnnel Hafren yn y gymuned yma. Uchben, mae Ail Groesfan Hafren yn cario'r draffordd M4. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer o Oes yr Haearn ac olion fila Rufeinig a theml Rufeinig. Ceir yma wrthgloddiau diweddarach hefyd, a godwyd, yn ôl traddodiad, gan Harold Godwinson wedi iddo oresgyn y rhan yma o Gymru ar ôl gorchfygu Gruffudd ap Llywelyn. Dywedir i Harold godi adeilad yma ar gyfer hela, ond i Caradog ap Gruffudd, brenin Gwent, ei ddinistrio yn 1065.

Yn ôl traddodiad, roedd prif lys Caradog Freichfras, brenin Gwent, yma yn y 6ed ganrif. Crybwyllir y lle yn y gerdd Moliant Cadwallon o'r 7fed ganrif fel "Porth Esgewin". Yn ôl Gerallt Gymro, roedd Cymru yn ymestyn o Borth Wygyr, yng ngogledd Ynys Môn, i Borth Ysgewin.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato