Caradog Freichfras

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Arfau Caradog Freichfras" a ymgorfforir yn arfau talaith Zeeland. Darlun o'r 15fed ganrif.

Ceir nifer o gyfeiriadau at Caradog Freichfras (477 - 540) yn hanes traddodiadol Cymru. Ceir y cyfeiriad cynharaf ym muchedd Sant Padarn, fel Caradauc, cognomento Brechbras. Ei dad yn ei Gwrgan Fawr. Dywedir iddo ddod yn frenin Prydain a Llydaw.

Yn draddodiadol cysylltir ef ac ardaloedd Brycheiniog a Maesyfed. Cyfeirir ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy fel 'Caradog Freichfras ap Llyr Marini', a cheir cyfeiriad ato fel Caradog ap Llŷr yn chwedl Geraint fab Erbin. Yn ôl Bonedd y Saint ef oedd tad y seintiau Cadfarch, Tangwn a Maethlu. Dywedir i'w fab Cawrdaf sefydlu teyrnas Rhwng Gwy a Hafren yn y 6ed ganrif. Yn ôl buchedd sant Collen, roedd yntau'n ddisgynnydd iddo. Enwir ei wraig fel Tegau Eurfron. Ymddengys fel Karadués Briebraz yn Erec ac Enide gan Chrétien de Troyes.

Fe'i rhestrir yn Nhrioedd Ynys Prydain fel un o 'Dri Chadfarchog Ynys Prydain':

'Tri Chadfarchog Ynys Prydain:
Caradog Freichfras,
a Menwaedd o Arllechwedd,
a Llŷr Lluyddog.'

Mae triawd arall yn ei nodi fel 'pen hynaif' y Brenin Arthur yn ei lys yng Nghelliwig yng Nghernyw: Tintagel o bosibl.

Llyfryddiaeth[golygu]