Ysgawen
| Ysgawen | |
|---|---|
| Aeron yr ysgawen | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Dipsacales |
| Teulu: | Adoxaceae |
| Genws: | Sambucus |
| Rhywogaeth: | S. nigra |
| Enw deuenwol | |
| Sambucus nigra L. |
|
Coeden yw'r ysgawen (Lladin: Sambucus nigra; Saesneg: Elder). Coeden â chryn dipyn o goelion (neu ofergoelion) yn perthyn iddi; credir er enghraifft ei bod yn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Defnyddid ei blodau, sy'n tyfu ym Mehefin, i wella llais cryg neu annwyd cas.
Mae'r ffrwyth yn edrych fel grawnwin bychain ac yn llawn o rinweddau.
Rhinweddau meddygol [golygu]
Dylid casglu wyth neu ddeg o ddail y 'sgawen a'u torri'n fân a'u berwi am ddeng munud mewn hanner peint o ddŵr, gyda mêl i'w felysu os oes angen. Mae'n ddull gwych a naturiol i glirio'r croen o unrhyw smotiau ac amhuredd ac i lanhau'r perfedd.
Gallwch ddefnyddio blodau'r ysgwaen (tuag owns) mewn peint o ddŵr a'u trwytho am ddeng munud, ei hidlo a'i yfed deirgwaith y dydd at gatár, bronceitis, y frech goch, gwynegon (neu gricmala) dolur gwddw neu at gowt.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.