Gowt

Oddi ar Wicipedia

Clefyd a achosir gan gasgliad o asid wrig ydy cymalwst neu Gowt (arthritis metabolaidd). Gyda'r cyflwr hwn, mae crisialau o monosodiwm wraidd neu asid wrig yn cael eu dyddodi ar gartilag cymalog y cymalau neu dendonau sydd o'i amgylch. Mae'r crisialau hyn yn achosi llid a phoen, a all fod yn ddifrifol. Os aiff y cyflwr yn ddiatal, mae'r crisialau'n ffurfio tophi sy'n gallu achosi niwed sylweddol i'r meinwe. Mae cymalwst yn ganlyniad o gyfuniad o lefelau uwch o asid wrig ac asidedd cyffredin y llif y gwaed. Nid yw lefelau uwch o asid wrig (hyperwrisemia), na asidedd ynddynt eu hunain yn ddigon i achosi cymalwst.

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato