Tendon

Oddi ar Wicipedia
Tendon
Enghraifft o'r canlynolstrwythur anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathdense regular connective tissue, darn o organ, strwythur anatomegol, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oPoikkijuovainen lihaskudos Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmeinwe gyswllt Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnabyddir tennynau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tennyn.

Meinwe gyswllt yw tendon neu gewyn sy'n cysylltu'r cyhyrau i'r asgwrn mewn bodau dynol ac mewn anifeiliaid eraill. Gall wrthsefyll tensiwn i raddau helaeth. Mae'r tendon yn wahanol i'r tennyn (ligament), sy'n cysylltu asgwrn i asgwrn. Mae tendonau a chyhyr, felly'n gweithio gyda'i gilydd i dynnu.

Eu gwneuthuriad[golygu | golygu cod]

Mae'r tendon wedi ei wneud allan o ffibrau colagen wedi'u pacio'n dynn at ei gilydd. Colagen teip 1 sydd i'w weld amlaf, er y ceir teip a 111 a V ar adegau. Protinau eraill sy'n eu dal at ei gilydd. Ceir rhydweliau gwaed yn rhedeg yn gyfochrog â'r tendonnau, ond ni chredir fod nerfau mân ynddynt (ar wahan i'r peritendon). I godi pwysau, mae'n beth da cael tendonnau bach a chyhyr mawr; ond i redeg, mae tendon Achilles hir yn bwysicach na chyhyrau mawr. Mae maint y tendonnau'n gwahaniaethu'n fawr o berson i berson a'u hŷd yn cael eu pasio ymlaen drwy'r genynnau yn hytrach na thrwy ymarfer.

Yn ystod y ddegawd diwethaf, nid fel casgliad o gelloedd sy'n medru cyfangu'n unig yr edrychir arnynt. Bellach, ceir nifer o arbrofion sy'n gweld rhinwedd y 'sbring' ynddynt, sy'n golygu y gallent storio grym.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.