Tennyn
- Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.
Mae tennyn neu gewyn (Saesneg: ligament) mewn anatomeg, yn air a ddefnyddir am dri fath o strwythur o fewn y corff:[1]
- Meinwe gyswllt ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol"[2], "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
- Plyg y peritonewm neu bilen arall.
- Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.
Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term tennyn.
Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.
Cynnwys |
Tennynau peritonewm [golygu]
Cyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.
Mae esiamplau yn cynnwys:
- Y tennyn hepatoduodenal, sy'n amgylchynu'r gwythïen porth hepatig a llestri eraill fel maent yn teithio o'r dwodenwm i'r iau.
- Mae tennyn llydan y groth hefyd yn blyg yn y peritonewm.
- Tennyn cynhaliol yr ofari
Tennyn gweddill ffoetaidd [golygu]
Cyfeirir at rhai strwythrau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:
| Ffoetws | Oedolyn |
| ductus arteriosus | ligamentum arteriosum |
| Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws | ligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau"). |
| Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus) | ligamentum venosum |
| Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetws | medial umbilical ligaments |
Tennyn cymalol [golygu]
Yn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.