Dwodenwm
1 Chwarennau poer 2 Parotid 3 Is-dafod 4 Is-fantol 5 Y geg 6 gwacter 7 Tafod 8 Oesoffagws (y llwnc) 9 Pancreas 10 Stumog 11 Pibell bancreatig 12 Iau (Afu) 13 coden fustl 14 Dwodenwm 15 Dwythell y bustl 16 Coluddyn mawr 17 Colon traws 18 Colon esgynnol 19 Colon disgynnol 20 Coluddyn bach 21 caecwm 22 Coluddyn crog 23 Rectwm 24 Anws
Mae'r dwodenwm (Saesneg: Duodenum) yn rhagflaenu'r coluddyn bach. Daw'r enw o'r Lladin duodenum digitorum sef 'lled deuddeg bys'.
Mewn bodau dynol, mae'r dwodenwm yn diwb gwag rhwng 25 – 30 cm o ran hyd sy'n cysylltu'r coluddyn gwag (Saesneg: jejunum) gyda'r stumog.
Pwrpas[golygu]
Y dwodenwm sy'n bennaf gyfrifol am dreulio (neu dorri i lawr) bwyd yn y coluddyn bach, gan ddefnyddio ensymau i wneud hynny. Mae'r "Brunner's glands" sy'n secretu mwcws i'w cael yn y dwodenwm.
Mae'r organ hwn hefyd yn gyfrifol am reoli'r broses o wagio'r stumog. Gollyngir secretin a cholesystocinin (cholecystokinin) o gelloedd yn yr epitheliwm dwodenol (duodenal epithelium) fel adwaith i asid neu saim; bryd hyn fe agorir y pyloris gan ryddhau "treulfwyd gastrig" i mewn i'r dwodenwm er mwyn cynorthwyo ymhellach gyda'r broses o dreulio'r bwyd. Mae hyn yn peri i'r iau a'r goden fustl i ryddhau bustl (Saesneg: bile), ac i'r pancreas i ryddhau bicarbonad ac ensymau treulio megis trypsin, lipas ac amylas i mewn i'r dwodenwm, fel mae eu hangen.