Coluddyn mawr
Oddi ar Wicipedia
Mewn anatomeg rhan o'r bibell faeth (neu'r 'alimentary canal') ydy'r coluddyn mawr; un o'r coluddion. I bwrpas ydy amsugno dŵr o'r hyn sy'n weddill o'r bwyd sydd heb gael ei dreulio ac yna ysgarthu'r gwastraff hwn allan o'r corff.
Gellir rhannu'r coluddyn mawr yn ddwy ran: y coluddyn dall ('caecwm') a'r colon. Ger asgwrn y pelfis (dde) mae'n cychwyn; yn y rhan iliac; fe'i cysylltir yma i'r coluddyn bach. Oddi yma, mae'n teithio i fyny'r abdomen ac yna ar draws gwacter yr abdomen, gan droi ar i lawr ac at i'r anws.
Mae ei hyd tua metr a hanner, tua un pumed rhan o'r bibell faeth.
Rhannau [golygu]
Mae tair rhan i'r coluddyn mawr:
- Colon traws (transverse colon)
- Colon esgynnol (ascending colon)
- Colon disgynnol (descending colon)
