Iau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Erthygl yw hon am yr offeryn amaethyddol a elwir yn iau. Am ystyron eraill gweler Iau (gwahaniaethu).

Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr offer hwn i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu gwaith y tynnu ar draws ysgwyddau’r anifeiliaid.

Defnyddir ieuau ar geffylau weithiau ond ar ychain y’i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw’r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Yr Aradr Gymreig gan F.G. Payne (Gwasg Prifysgol Cymru, 1975)
Tractor template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Iau
yn Wiciadur.