Coluddyn crog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwlwmycol.jpg

Darn bach o gnawd, rhwng y coluddyn mawr a'r coluddyn bach, ydy'r coluddyn crog (Saesneg: Vermiform appendix neu appendix ar lafar). Nid ydy gwyddoniaeth hyd yma wedi darganfod ei bwrpas. Mewn rhai pobl, mae'n chwyddo neu'n 'llidio', a'r unig ateb ydy ei dynnu drwy lawdriniaeth mewn ysbyty; naill ai laparotomi neu laparoscopi. Heb driniaeth, mae cleifion yn marw o lid y ffedog/peritonitis a sioc.

Troi'n llidiog[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llid y coluddyn crog

Yn dilyn llawer o arbrofion, mae'n ymddangos mai rhyw rwystr yn 'lwmen' y coluddyn crog sy'n ei achosi i droi'n llidiog ac i ffyrnigo.[1] Cyn gynted mae'r rhwystr yma'n digwydd, mae'n llenwi gyda mwcws ac yn chwyddo (hynny yw, yn troi'n llidiog). Mae'r pwysedd y tu mewn i'r lwmen yn cynyddu gan greu thrombosis ac achludiad yn y pibelli bychain. Ar adegau prin iawn, fe all cleifion wella ei hun. Os nad, yna mae'r bacteria yn dechrau gollwng drwy'r waliau tenau (sydd eisoes yn dechrau marw) gan achosi llid y ffedog. Os yw hwnnw, wedyn, yn dwysáu ac yn gwaethygu, mae'n troi'n wenwyn yn y gwaed (neu 'septisimia') a marwolaeth yn ei ddilyn.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Awdur: Wangensteen OH, Bowers WF; 'Significance of the obstructive factor in the genesis of acute appendicitis' yn ei gyfrool Arch Surg; cyfrol 34; tud: 496-, 1937