Coluddyn bach
Oddi ar Wicipedia
Mewn anatomeg rhan o'r bibell faeth (neu'r 'alimentary canal') ydy'r coluddyn bach, un o'r coluddion. Mewn bodau dynol ceir tair rhan i'r coluddyn bach: y dwodenwm: y coluddyn gwag (neu'r 'jejunum') a'r iliwm. Mewn bodau dynol dyma lle mae'r rhan fwyaf o'r bwyd yn cael ei dreulio. Mewn oedolion, mae ei hyd oddeutu 7 metr:
- y dwodenwm: 26 cm
- y coluddyn gwag: 2.5 metr
- Iliwm: 3.5 metr
Mae'n llawer hirach na'r coluddyn mawr, ond gelwir ef yn goluddyn bach oherwydd bod ei ddiamedr yn llai.
