Oesoffagws

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pibell allan o gyhyr a geir mewn rhai anifeiliaid ydyw'r oesoffagws, y sefnig, y bibell fwyd neu'r llwnc (Saesneg: Esophagus/Oesophagus). Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r geg i'r stumog. O'r Lladin y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n fenthyciad o'r Roeg oisophagos (οισοφάγος), sef "mynediad y bwyd". Mewn bodau dynol caiff ei leoli ar yr un lefel â fertebra C6 ac mae'n 25–30 cm o hyd, gan ddiweddu yng ngheg y stumog.

Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thorasig ac abdomenol.

Ei waith[golygu]

Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leinin mwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i mewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg (ffaryncs) sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system resbiradu â'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.