Ffaryncs

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleolir y ffaryncs (Sa: pharynx) yng nghefn y ceg mewn dyn a mamaliaid eraill ac mae ganddo ddau bwrpas: mae'n rhan o'r system dreulio bwyd ac yn rhan o'r system respiradu. Gan fod aer a bwyd yn pasio drwyddo ceir fflap bychan o'r enw epiglotis (neu ardafod) sy'n cau dros y bibell wynt pan llyncir bwyd, i atal y person (neu'r anifail) rhag tagu. Mewn pobol, mae'r ffaryncs hefyd yn bwysig yn y broses o greu sain.

Oriel[golygu]

Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.