System resbiradu
Oddi ar Wicipedia
System resbiradu mewn organebau byw ydy'r system hwnnw sy'n caniatáu cyfnewid nwyon. Mae'n cynnwys yr organau a ddefnyddir i anadlu, y ffaryncs (neu'r 'uwchlwnc'), y tracea, y bronci, yr ysgyfaint a'r diaffram thorasig. Mewn meddygaeth, mae'r astudiaeth o'r system resbiradu yn rhan o anatomeg, sydd yn ei dro'n rhan o fioleg.
Mae gan anifeiliaid eraill megis pryfaid sytem resbiradu: defnyddia amffibiaid eu crwyn i gyfnewid y nwyon ocsigen a charbon deuocsid. Ac mae gan blanhigion hwythau systemau resbiradu er fod y cyfnewid nwyon yn gwbwl groes i gyfeiriad y nwyon mewn anifeiliaid. Cynhwysa nodweddion anatomegol unigryw megis y tyllau a geir ar wyneb isaf deilen, sef y stomata.