Pysgodyn
Oddi ar Wicipedia
| Pysgod Amrediad amseryddol: Ordofigaidd–Diweddar |
|
|---|---|
| Synchiropus splendidus | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Ddim wedi'i restru: | Craniata (rhan) |
| Prif grwpiau | |
Anifeiliaid asgwrn-cefn sy'n byw mewn dŵr yw pysgod. Mae tua 32,000 o rywogaethau. Fe'u dosberthir mewn sawl grŵp, megis pysgod esgyrnog (Osteichthyes) fel pennog neu eog, pysgod di-ên (Agnatha), er enghraifft lampreiod, a physgod cartilagaidd (Chondrichthyes) fel morgwn a morgathod.
Dydy pysgod cregyn ddim yn wir pysgod. Maen nhw'n cynnwys molysgiaid a chramenogion sydd yn cael eu bwyta.