Canibaliaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr arfer gan rai pobl o fwyta pobl eraill, neu rannau ohonynt, yw canibaliaeth. Gelwir rhywun sy'n arfer canibaliaeth yn 'canibal'.

Hanes[golygu]

Gwledd ganibalaidd: llun o lawysgrif ganoloesol o Deithiau Marco Polo

Credir fod sawl pobl hynafol wedi arfer ryw lun ar ganibaliaeth yn y gorffennol pell, fel rheol am resymau crefyddol. Mae rhai beirniaid yn gweld adlewyrchiad o hen gredoau am swyddogaeth fytholegol canibaliaeth yn yr Offeren Gristnogol hefyd, am fod y credadyn yn bwyta ac yfed - yn symbolaidd, wrth gwrs - gnawd a gwaed Crist.

Tystiolaeth anthropolegol[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Mytholeg a llên gwerin[golygu]

Mae canibaliaeth yn elfen gyntefig mewn sawl myth a chwedl werin ledled y byd. Yn Ewrop mae nifer o gewri yn ganibaliaid - e.e. y trols ym mytholeg Llychlyn. Ym mytholeg Roeg mae'r Cronos yn bwyta ei blant ei hun - sef duwiau Olympws - ond mae Zeus yn ei orfodi yn nes ymlaen i'w taflu i fyny ac yn eu hadfer. Mae canibaliaeth yn elfen yn chwedl Hugan Goch Fach hefyd, yn enwedig o'i dadansoddi yn seicdreiddiadol. Dywedir hefyd fod ellyllon yn ymborthi ar gyrff y meirw.

Ffuglen[golygu]

Y canibal ffuglen enwocaf heddiw, mae'n debyg, yw'r cymeriad Dr Hannibal Lecter (a bortreadir gan Anthony Hopkins) yn The Silence of the Lambs a Hannibal.

Enghreifftiau cyfoes[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.