Afonfarch
Oddi ar Wicipedia
| Afonfarch | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Artiodactyla |
| Teulu: | Hippopotamidae |
| Genws: | Hippopotamus |
| Rhywogaeth: | H. amphibius |
| Enw deuenwol | |
| Hippopotamus amphibius Linnaeus, 1758 |
|
Mamal yn perthyn i'r teulu Hippopotamidae yw'r Afonfarch (Hippopotamus amphibius, o'r Groeg: 'ιπποπόταμος, hippopotamos). Yr unig aelod arall o'r teulu yw'r Afonfarch Bach.
Ceir yr Afonfarch yn Affrica i'r de o'r Sahara yn unig, ac mae wedi diflannu o lawer o diriogaethau yno. Mae'n byw o gwmpas afonydd a llynnoedd mewn grwpiau o hyd at 40 anifail, gan aros yn y dŵr yn ystod y dydd a dod allan i fwydo ar blanhigion yn y nos.
Ceir rhwng 125,000 a 150,000 ohonynt i gyd, y nifer fwyaf yn Zambia (40,000) a Tanzania (20,000-30,000).
Filoedd o flynyddoedd yn ôl, cyn i'r hinsawdd newid, roedd afonfeirch i'w cael yng nghanol yr hyn sydd erbyn heddiw yn anialwch y Sahara: ceir darluniau cynhanesyddol ohonynt ar furiau ogofau yn y Tassili n'Ajjer.