Brynbuga

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Brynbuga
Gwent
Image:CymruFynwy.png
Image:Smotyn_Coch.gif

Tref fechan yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw Brynbuga (Cyfeirnod OS: SO3700); (Saesneg: Usk). Mae Afon Wysg yn llifo trwy'r dre sef tarddiad yr enw Saesneg i'r dref. Hen enw Brythoneg ar gaer Rhufeinig y dref oedd 'Burrio' sef caer 'gadarn', 'cryf', 'enfawr' ac efallai i'r gair hwn newid yn 'buga'.

Sefydlwyd y dref gan y Rhufeiniaid ym 55 OC, gyda'r enw Lladin Burrium.

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Brynbuga. Llosgwyd Brynbuga gan fyddin Owain Glyndŵr yn 1403, ond cafodd y Saeson fuddgoliaeth yn erbyn Glyndŵr ym mrwydr Pwll Melyn, yn agos i Frynbuga, yn 1405.

Golygfa ar Frynbuga

[golygu] Enwogion


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol