Llanwytherin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanwytherin.

Pentref gwledig a phlwyf yn Sir Fynwy yw Llanwytherin (Seisnigiad: Llanvetherine). Fe'i lleolir ar y B4521 tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Fenni, ar y ffordd i Ynysgynwraidd.

Cyfeirir at y pentref yn y llawysgrif Gymreig gynnar Llyfr Llandaf fel Ecclesia Guitherin (Lladin am 'Eglwys Gwytherin'). Sefydlwyd yr eglwys gan y sant Gwytherin, yn ôl pob tebyg. Cafwyd hyd i faen gydag arysgrif Ladin arno yn dwyn y geiriau S. Vetterinus a Ixcob Psona, sydd efallai er cof am offeiriad o'r enw Jacobus.

Cyfeiriadau[golygu]

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000). Tud. 316.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato