Drenewydd Gelli-farch
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Drenewydd Gelli-farch (Cyfeirnod OS: ST4793), weithiau Trenewydd Gelli-farch (Saesneg: Shirenewton). Fe'i lleolir dair milltir i'r gorllewin o dref Cas-gwent a tua 500 troedfedd (154 m) uwch lefel y môr.
Ceir 'Gelli-farch' arall ger 'Cilfrew' ym Morgannwg, dyna pam y tyfodd yr enw 'Drenewydd' i wahaniaethu'r ddau. Lle coediog ydy 'gelli' ac mae'r ardal yn dal i fod yn gyfoethog ei goed.
Cyn dyfodiad y Normaniaid, roedd yn rhan o fforest Coed Gwent a chantref Gwent-is-coed. Mae henebion y cylch yn cynnwys Crug Heol y Mynydd. Ceir cyfeiriad at y lle yn Llyfr Dydd y Farn, pan oedd yn rhan o diroedd yn perthyn i Durand, Rhingyll Caerloyw. Cysegrwyd yr eglwys, a adeiladwyd yn hanner cyntaf y 13eg ganrif, i Sant Thomas à Becket. Roedd y croniclydd Adda o Frynbuga yn rheithor yr eglwys yma yn 1399.
Aberffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Brynbuga · Bryngwyn · Caerwent · Cas-gwent · Castell-meirch · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Cil-y-Coed · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Y Fenni · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Yr Hencastell · Little Mill · Llanarth · Llanbadog · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llaneuddogwy · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel-y-gofion · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llanffwyst · Llangaeo · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · St. Arvans · Sudbrook · Trefynwy · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd