Llanddingad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Dingad Sant, Llanddingad.

Pentref bychan yn Sir Fynwy yw Llanddingad (hefyd Llandingad; Saesneg: Dingestow). Fe'i lleolir ger ffordd yr A40, rhwng Rhaglan i'r gorllewin a Threfynwy i'r dwyrain, ar lôn fynydd sy'n arwain dros y bryniau i bentref Llandeilo Gresynni. Llifa afon Troddi heibio'r pentref.

Enwir yr eglwys a'r pentref ar ôl Sant Dingad (?5ed ganrif), un o feibion Brychan, brenin Brycheiniog, yn ôl traddodiad.[1] Cyfeirir at yr eglwys yn Llyfr Llandaf am iddi gael ei rhoi gan Tudmab fab Pawl i Landaf.

Codwyd castell ger Llanddingad gan y Normaniad Ranulph de Poer, siryff Henffordd, ar ddechrau'r 1180au. Yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru, mae Gerallt Gymro yn adrodd fel y bu i ryfelwyr Gwent ymosod ar y castell i geisio dial ar laddfa ysgeler arnynt gan Wiliam de Braose yn 1177. Lladdwyd de Poer a rhai o'r amddiffynwyr eraill ond llwyddodd de Braose i ddianc.[2]

Mae gan y pentref le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am i Frut Dingestow, un o'r testunau Cymraeg Canol pwysicaf o Historia Regum Britanniae (testun Lladin) Sieffre o Fynwy gael ei diogelu yno (ac efallai ei sgwennu yno).[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938).
  3. Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942), rhagymadrodd.