Brychan

Oddi ar Wicipedia
Brychan
Brychan ar ffenestr yn y Gadeirlan, Aberhonddu.
Ganwyd400 Edit this on Wikidata
Talgarth Edit this on Wikidata
Bu farw480 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl6 Ebrill Edit this on Wikidata
TadAnlach ferch Coronac ab Eurbre Wyddel Edit this on Wikidata
MamMarchell ap Tewdrig ap Teithfall ap Teithrin Edit this on Wikidata
PlantCynog Ferthyr, Dingad o Landingad, Santes Gwladys, Santes Cain, Santes Dwynwen, Santes Eiluned, Santes Tudful, Santes Tybïe, Cledwyn, Gwen o Dalgarth, Meleri ach Brychan, Belyau ach Brychan, Santes Cynheiddon, Tutglud ach Brychan, Nefyn ach Brychan, Santes Arianwen, Clydai ach Brychan, Santes Gwawr, Tangwystl ach Brychan, Rhiangar ach Brychan, Neithon, Dyfnan, Menefrida, Lluan, Cynon, Santes Ceinwen, Cleder, Ilud ach Brychan, Tudwen Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler John Davies (Brychan).

Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd Brychan (fl. 5g). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i Deyrnas Brycheiniog yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru. Ei ddygwyl yw 5 Ebrill.

Cyfarfu rhieni Brychan yn Iwerddon ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Priododd Marchell ach Tewdrig (mam Brychan) a oedd yn bennaeth Llanfaes,[1] ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn berchen Garth Madryn. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn, yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.

Disgynyddion[golygu | golygu cod]

Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y Cognatio de Brychan a ysgrifennwyd yn y 10g[1] ond mae wedi'i seilio ar ddogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll[1]. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn:

Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybïe, Tudful, a Tangwystl.

Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru'n bennaf. Yn ôl y Cognatio, ei fechgyn oedd:

Cynog, Rhun, Cledwyn, Arthen, Pabai, Rhain Dremrudd, Mathaiarn, Dingad, Cyflefwr, Berwyn a Rhawin.[2] Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y Trioedd fel un o "dri llwyth seintiau Cymru", ynghyd â theuluoedd Caw (neu Coel) a Chunedda. Mae llawer o enwau eraill wedi ychwanegu at restrau "plant" Brychan. Maent fel arfer yn wyrion, yn wyresau neu'n or-wyrion iddo (e.e. Dyfnan, Dilig, Adwen, Mabon, Menefrida, Morwenna, Wenna a Gwenfyl). Mae hyn yn dilyn y patwrm arferol o 'Blant Adda' neu 'Deulu Abram Wood', am y disgynyddion.

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd[3]. Disgrifiodd John Davies de-ddwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." [3]

Ffurfwyd Brycheiniog fel cyngrhair rhwng rhai o feibion Brychan ar ôl ei farwolaeth er mwyn amddiffyn eu hunain rhag llwythau eraill.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Jones, TT, 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII
  2. Bartrum, P. C. 1966. Early Welsh Genealogical Tracts,Gwasg Prifysgol Cymru
  3. 3.0 3.1 Davies J, 1990 Hanes Cymru, Penguin