Llangybi, Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llangybi.
Erthygl am bentref yn Sir Fynwy yw hon. Gweler hefyd Llangybi (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yn Sir Fynwy yw Llangybi, a adnabyddir hefyd fel Llangybi Fawr.[1] Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Casnewydd a Brynbuga.

Mae'n un o bedwar lle yng Nghymru i gael ei sefydlu gan Sant Cybi ac yn un o dri o'r un enw. Yn ôl buchedd y sant, a aned yng Nghernyw, cafodd ei sefydlu ganddo ar ôl cyfnod o astudio yng Ngâl.

Mae plwyf Llangybi Fawr yn cynnwys pentref Llandegfedd, rhai milltiroedd i'r gorllewin.


Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangybi, Sir Fynwy (pob oed) (890)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangybi, Sir Fynwy) (72)
  
8.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangybi, Sir Fynwy) (589)
  
66.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangybi, Sir Fynwy) (123)
  
33%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Enwau Cymru
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013