Twnnel Hafren
Oddi ar Wicipedia
Twnnel rheilffordd sy'n cysylltu de Swydd Gaerloyw yn Lloegr a Sir Fynwy yng Nghymru yw Twnnel Hafren (Saesneg Severn Tunnel). Mae'n rhedeg o dan aber Afon Hafren. Adeiladwyd y twnnel rhwng 1873 a 1886 gan gwmni'r Great Western Railway. Yn 4.5 milltir (7 km) o hyd, hwn yw twnnel rheilffordd hwyaf yn rhwydwaith rheilffordd Prydain (sydd ddim yn cynnwys y Tiwb yn Llundain). Dim ond Twnnel y Sianel sy'n hwy. Mae gorsaf fach Cyffordd Twnnel Hafren tua thair milltir o ben Cymreig y twnnel.