Milltir

Oddi ar Wicipedia

Mesuriad o hyd yw milltir, a ddiffinir fel arfer yn 5,280 troedfedd, neu 1,609.3 metr. Mae'r mesuriad yma'n cael ei alw'n "filltir atatudol", i'w gwahaniaethu oddi wrth filltir morwrol sy'n 1,852 metr, neu 6,076.1 tr. Dros y blynyddoedd cafwyd gwahanol bellteroedd o "filltiroedd", gyda'r hyd rhwng un a phymtheg cilometr.

Roedd cryn whaniaeth rhwng y gwahanol fathau o filltiroedd yn para hyd at 1959 pan gafwyd cytundeb rhyngwladol a ddiffiniwyd "milltir" yn union 1,609.344 m.