Troedfedd

Oddi ar Wicipedia
Safon Imperialaidd Greenwitch

Uned fesur hyd yw troedfedd. Rhan isaf y goes ydy'r troed ac mae wedi rhoi ei enw i'r mesur hwn, sydd tua'r un faint a maint troed eitha mawr. Nid yw'r uned yn rhan o'r unedau safonol hynny a ddefnyddir yn fyd-eang, sef y System Ryngwladol o Unedau. Defnyddir "troedfedd" i fesur pellter sydd tua 30 centimetr, neu'n union 0.3048 metr. Ceir deuddeg modfedd mewn troedfedd ac mae tair troedfedd yn gwneud un llath.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'n fesuriad eitha hen ac yn dod o nifer o wledydd gan gynnwys gwledydd Prydain a'r Eidal ac yn perthyn i'r grwp o unedau hynny a elwir yn Unedau imperial. Yn wreiddiol roedd troedfedd (uned hyd) yr un hyd a throed Rhufeiniwr. Yng Nghymru'r Oesoedd Canol roedd y droedfedd yn uned fesur sylfaenol a cheir cyfeiriadau ati yng Nghyfraith Hywel; ond naw modfedd yn hytrach na deuddeg oedd hyd y droedfedd Gymreig.[1] Yn Llyfr Iorwerth a llyfrau cyfraith eraill defnyddir y droedfedd i ddiffinio maint yr erw Gymreig.[1]

Yn y 12g cafodd y droedfedd ei diffinio gan ddeddf a gyhoeddwyd gan Harri I yn Lloegr.[2] Gan fod cyfartaledd maint y troed ychydig yn llai na 30 cm, ymddengys fod y maint hwn hefyd yn cynnwys yr esgid. Er enghraifft, cyfartaledd maint troed person sy'n 180 cm (5 tr 11 mod) ydy 275 mm.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960), tud. 119.
  2. Oswald Ashton Wentworth Dilke (22 Mai 1987). Mathematics and measurement. University of California Press. t. 23. ISBN 978-0-520-06072-2. Cyrchwyd 2 Chwefror 2012.
Chwiliwch am troedfedd
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.